|
Mae Tegfryn yn fwthyn a fu unwaith yn rhan o ystad
ond sydd newydd ei adnewyddu. Rydym wedi cadw nifer o nodweddion
gwreiddiol y bwthyn a thu mewn ceir cyfuniad o ddodrefn fodern
chwaethus a hen ddodrefn derw cymreig.

Mae wedi'i leoli mewn llecyn tawel, braf gyda
gardd fawr, gaeedig a golygfeydd gwych o'r wlad. Mae hefyd
yn agos at nifer o draethau lleol a llwybrau arfordirol arbennig.
Mae pentref Benllech 2 filltir i ffwrdd gyda siopau, banciau,
meddygfa, fferyllfa ac ati.
|
|