Yr ardal
Mae'r bwthyn mewn lleoliad canolog i grwydro gweddill yr ynys
a Gogledd Cymru. Dim ond taith o 30 munud yw Parc Cenedlaethol
Eryri neu borthladd Caergybi lle gallwch chi groesi i Iwerddon
am y dydd. Mae nifer o atyniadau eraill ar yr ynys, yn cynnwys
y Sŵ Môr, Pili Palas a thref hanesyddol Biwmares
a'i chastell, heb sôn am hanes a diwylliant Môn.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, ewch i
Ynys o Ddewis
www.ynysoddewis.com
Gwefannau defnyddiol eraill:
Oriel Tegfryn Oriel gelf gyda pheintiadau olew a phrintiau gan arlunwyr lleol, yn cynnwys Kyffin Williams
www.orieltegfryn.com
Plas Tre-Ysgawen
Gwesty o safon a sba gyda'r gorau yng Ngogledd Cymru.
www.treysgawen-hall.co.uk
Gwyliau Cerdded Ynys Môn
Beth am gerdded ar hyd llwybrau arfordirol Ynys Môn?
Mae llawlyfr hwylus wedi'i gyhoeddi sy'n disgrifio'r teithiau.
www.angleseywalkingholidays.com
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cefndir hanesyddol a gwybodaeth i ymwelwyr am fwy na 300 o adeiladau a gerddi hanesyddol.
www.nationaltrust.org.uk
Bwrdd Twristiaeth Cymru
Gwefan swyddogol gwyliau yng Nghymru.
www.visitwales.co.uk
Parc Carafanau Home Farm
Wedi'i leoli mewn llecyn gwledig, tawel, heb fod ymhell o'r traeth. Yn addas i'r teulu i gyd.
www.homefarm-anglesey.co.uk |